Dyluniad Rolls-Royce SMR yn mynd ymlaen i gam nesaf yr asesiad rheoleiddiol
Mae Rolls-Royce SMR, â chymorth grant gan UKRI, wedi cwblhau cam cyntaf yr Asesiad Dyluniad Generig (GDA), ac yn mynd ymlaen i Gam 2 yr asesiad gan reoleiddwyr niwclear annibynnol y DU.
Mae cyrraedd y garreg filltir arwyddocaol hon yn rhoi SMR cwmni Rolls-Royce gryn bellter ar y blaen i ddyluniadau eraill yn y broses o geisio cael caniatâd ar gyfer Adweithydd Modiwlar Bach (SMR) gweithredol yn y DU. Gall gorsaf ynni unigryw Rolls-Royce SMR, sy’n cael ei hadeiladu mewn ffatri, gynhyrchu 470MW o drydan carbon isel – digon i bweru miliwn o gartrefi am o leiaf 60 mlynedd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Diogelwch a Materion Rheoleiddio, Helena Perry: “Mae hwn yn gam mawr ymlaen i’n prosiect ni, ac mae gwaith craffu annibynnol ein rheoleiddwyr yn rhoi mwy fyth o hyder yn hyfywedd dyluniad SMR cwmni Rolls-Royce.
“Mae gan Rolls-Royce SMR brofiad heb ei ail ym maes GDA, a thrwyddedau a chaniatadau rhyngwladol. Rydym yn defnyddio’r holl wybodaeth a’r gwersi a ddysgwyd gan y tîm sydd â sgiliau unigryw i symud yn gyflym drwy’r broses GDA – gan ddod â ni’n nes at ein gweledigaeth o ddarparu ynni glân, fforddiadwy i bawb a chael datrysiad Prydeinig i’r argyfwng ynni byd-eang.”
Cam 2 yw cam asesiad sylfaenol y GDA, lle mae asesiad technegol manwl y rheoleiddwyr – y Swyddfa Reoleiddio Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru – yn dechrau o ddifri.
Er mwyn sicrhau bod y dyluniad yn bodloni’r safonau uchaf o ran diogelwch, diogeledd, mesurau diogelu a diogelu’r amgylchedd, mae Rolls-Royce SMR wedi lansio gwefan bwrpasol lle gall pobl ‘ddweud eu dweud’ am ddyluniad SMR cwmni Rolls-Royce. Bydd dogfennau pwysig yn cael eu cyhoeddi a chaiff unrhyw sylwadau neu adborth eu hymgorffori yn y broses reoleiddio.
Rolls-Royce SMR
Dan Gould,
M +44 (0) 7717 720809
[email protected]
https://www.rolls-royce-smr.com/
Adweithyddion Modiwlar Bach | Flickr
Nodiadau i Olygyddion:
Bydd SMR cwmni Rolls-Royce yn defnyddio technoleg ynni niwclear safonol sydd wedi’i defnyddio mewn 400 o adweithyddion ledled y byd.
Dyfarnwyd grant o £210 miliwn i Rolls-Royce SMR yn 2021 ac mae’n cael ei weinyddu gan UKRI. Nod y cymorth ariannol hwn yw cyflymu dyluniad Rolls-Royce SMR a phasio cam 2 y GDA.
Bydd gorsaf ynni Rolls-Royce SMR yn gallu cynhyrchu 470MW o ynni carbon isel, sy’n cyfateb i fwy na 150 o dyrbinau gwynt ar y tir, ac sy’n ddigon i bweru miliwn o gartrefi. Bydd yn cynhyrchu llwyth sylfaenol cyson am o leiaf 60 mlynedd, gan helpu i roi cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar waith yn raddol a goresgyn problemau stopio ac ailddechrau.
Mae Rolls-Royce SMR yn croesawu sylwadau a chwestiynau am ddyluniad ei SMR. Caiff yr adborth hwn ei ymgorffori yn y broses GDA, ac mae’n bosibl y caiff ei gyhoeddi yn ddienw ar wefan GDA Rolls-Royce SMR a’i ddefnyddio yn ystod trafodaethau â’n rheoleiddwyr.