No results found!
Drwy gydol y broses Asesiad Dyluniad Generig, bydd Rolls-Royce SMR yn cyflwyno nifer fawr o ddogfennau i’r rheoleiddwyr. Fel rhan o’i ymrwymiad i fod yn agored ac yn dryloyw, ac yn unol â’r canllawiau sy’n sail i’r asesiad, cyhoeddir cyflwyniadau pwysig yn adran Ddogfennau’r wefan hon.
Ar ôl cynhyrchu a gwirio’r dogfennau, caiff dogfennau a gynhyrchwyd gan Rolls-Royce SMR eu cyflwyno i’r rheoleiddwyr i gael eu hasesu. Mae hyn yn cynnwys cytundeb i gyhoeddi ar y wefan. Byddwn yn tynnu unrhyw eitemau a allai gynnwys gwybodaeth sensitif o ran diogeledd neu reoli allforio, ynghyd ag unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys ein heiddo deallusol arloesol. Fel rhan o’n dull gweithredu byddwn yn ceisio sicrhau bod cymaint ag sy’n bosibl o wybodaeth ar gael i’r cyhoedd.
Yn ogystal â’r dogfennau a gyhoeddir ar y wefan hon, bydd ein rheoleiddwyr annibynnol hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth helaeth ar eu gwefannau eu hunain ac ar dudalennau gwe ar y cyd, i egluro a chefnogi eu hasesiad.
Swyddfa Reoleiddio Niwclear - Asesiad Dyluniad Generig (GDA) o orsafoedd ynni niwclear newydd (onr.org.uk)
Asiantaeth yr Amgylchedd - Gorsafoedd ynni niwclear newydd: asessu dyluniadau adweithyddion - GOV.UK (www.gov.uk)
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae gwybodaeth niwclear sensitif, gwybodaeth sensitif o safbwynt masnachol a gwybodaeth gyfyngedig dan ddeddfwriaeth rheoli allforio wedi’i thynnu o’r dogfennau hyn – mewn cytundeb â’r rheoleiddwyr.