GDA process
Mae angen i Asiantaeth yr Amgylchedd, y Swyddfa Reoleiddio Niwclear (ONR) a Cyfoeth Naturiol Cymru sicrhau bod unrhyw orsaf ynni niwclear newydd sy’n cael ei hadeiladu yn y DU yn bodloni’r safonau uchel sy’n ofynnol ar gyfer:
diogelwch
diogeledd
mesurau diogelu
diogelu’r amgylchedd
rheoli gwastraff
Mae’r broses, Asesiad Dyluniad Generig (GDA), yn caniatáu i’r rheoleiddwyr asesu dyluniad gorsafoedd ynni niwclear newydd ar gyfer eu lleoli yn y DU. Nid yw cwblhau GDA yn llwyddiannus yn y DU o reidrwydd yn golygu y gellir dechrau adeiladu adweithydd niwclear.
Mae angen trwyddedau a chaniatadau eraill. Ar gyfer GDA, mae Rolls-Royce SMR yn cael ei adnabod fel y Parti sy’n Gwneud Cais, y sefydliad sy’n cyflwyno dyluniad generig ei adweithydd ar gyfer GDA.
Amcan y broses GDA yw rhoi hyder bod modd adeiladu, gweithredu a datgomisiynu’r dyluniad arfaethedig ym Mhrydain yn unol â’r safonau diogelwch, diogeledd, rheoli gwastraff, mesurau diogelu a diogelu’r amgylchedd sy’n ofynnol.
Mae 3 cham i’r broses GDA:
- Cychwyn
- Asesiad Sylfaenol
- Asesiad Manwl
Aeth Rolls-Royce SMR i Gam 1 y broses GDA ar 1 Ebrill 2022. Cam 1 yw cam cychwynnol y broses asesu dyluniad, a bydd yn cynnwys trafodaethau i sicrhau dealltwriaeth lawn o’r gofynion a’r prosesau a fydd yn cael eu cymhwyso, parodrwydd y Parti sy’n Gwneud Cais i symud ymlaen i Gam 2 ac adolygiad o drefniadau diogeledd a sicrhau ansawdd y Parti sy’n Gwneud Cais. Cwblhau Cam 1 yr Asesiad Dyluniad Generig yw’r garreg filltir fwyaf arwyddocaol hyd yn hyn wrth geisio cael caniatâd i leoli gorsaf ynni Rolls-Royce SMR yn y DU.
Cam 2 yw’r cam asesiad technegol sylweddol cyntaf. Mae’n canolbwyntio ar y camau sylfaenol o fewn y dyluniad i ddiogelu’r amgylchedd. Mae’n cynnwys asesu’r methodolegau, y dulliau gweithredu, y codau, y safonau a’r athroniaethau y mae’r Parti sy’n Gwneud Cais yn eu defnyddio er mwyn cadarnhau ei ddadl amgylcheddol.
I gael mwy o wybodaeth am y broses GDA a’i chamau amrywiol
Ein rheolyddion
Y Swyddfa Reoleiddio Niwclear - Asesiad Dyluniad Generig (GDA) o orsafoedd ynni niwclear newydd (onr.org.uk)
Asiantaeth yr Amgylchedd - Gorsafoedd ynni niwclear newydd: asesu dyluniadau adweithyddion - GOV.UK (www.gov.uk)
Cyfoeth Naturiol Cymru