Adweithyddion Modiwlar Bach Rolls-Royce: ynni fforddiadwy glân i bawb

Mae Rolls-Royce SMR yn cynnig dull gweithredu gwahanol iawn, gan ddarparu ynni niwclear drwy orsaf ynni ailadroddadwy, wedi’i hadeiladu mewn ffatri, sy’n defnyddio technoleg niwclear sydd wedi hen ennill ei phlwyf. Gellir adeiladu SMR cwmni Rolls-Royce a’i gael yn barod i’w weithredu yn llawer cyflymach na thechnoleg dylunio ac adeiladu bwrpasol gonfensiynol.

Mae’r dull gweithredu hwn yn gostwng costau, yn lleihau ansicrwydd a risg i ddatblygwyr, ac yn bwysig iawn, yn caniatáu i wledydd ar hyd a lled y byd fynd i’r afael â’u hangen dybryd am ynni carbon isel.

About 1