Y GDA ar gyfer SMR cwmni Rolls-Royce
Mae rheoleiddwyr niwclear annibynnol y DU (y Swyddfa Reoleiddio Niwclear (ONR), Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru) yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod unrhyw orsafoedd ynni niwclear newydd sy’n cael eu hadeiladu yn y DU yn bodloni safonau uchel o ran diogelwch, diogeledd, mesurau diogelu, diogelu’r amgylchedd a rheoli gwastraff, drwy broses a elwir yn Asesiad Dyluniad Generig (GDA).
Dweud eich dweud
Fel rhan o’i ymrwymiad i fod yn agored ac yn dryloyw, mae Rolls-Royce SMR yn croesawu sylwadau a chwestiynau am yr asesiad rheoleiddiol o ddyluniad ei Adweithyddion Modiwlar Bach (SMR). Caiff eich adborth ei ystyried a’i drafod fel rhan o’r broses GDA.